Amodau a Thelerau

Amodau a thelerau a datganiad preifatrwydd

Safleoedd llywodraeth ar y we yw Energysavingwales.org.uk a arbedynnicymru.org.uk a reolir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel ‘Ni’ . Wrth gysylltu â’n safle ar y we rydych chi fel defnyddiwr ‘Chi’ yn derbyn ein Amodau a Thelerau.

Mae safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we a’i safleoedd cysylltiedig yn cael eu cynnal ar gyfer eich defnydd personol. Bydd y mynediad a’r defnydd o’r Amodau a Thelerau hyn mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.

Eiddo Deallusol Marciau perchnogol y Cynulliad Cenedlaethol yw enwau, delweddau a logos adnabod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni chaniateir copïo neu ddefnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac/neu logos unrhyw barti arall a geir atynt trwy’r safle hwn ar y we heb ganiatâd gan y perchennog hawlfraint perthnasol ymlaen llaw.

Hawlfraint y Goron

Hawlfraint Caiff y rhan fwyaf o'r deunydd sy'n ymddangos ar y safle hwn ei diogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron (heblaw'r arfbais frenhinol) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb ofyn am ganiatâd penodol. Mae hyn ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac nid mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gaiff unrhyw un o'r eitemau ar y wefan sydd o dan hawlfraint y Goron ei hailgyhoeddi neu ei chopïo i eraill, mae'n rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fodlon hefyd i ddefnyddwyr greu cysylltiadau hypertestun â'r wefan yma. I gael rhagor o wybodaeth am bolisi hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu, gweler y canllawiau sydd i'w cael ar wefan Gwasg Ei Mawrhydi yn http://www.hmso.gov.uk/guides.htm

Logos Ni chaniateir copïo neu ddefnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac/neu logos unrhyw barti arall a geir atynt trwy’r safle hwn ar y we heb ganiatâd gan y perchennog hawlfraint perthnasol ymlaen llaw. Dylid cyfeirio ceisiadau am gael defnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru at

Yr Adran Gyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

ffôn: 029 2082 3743
ffacs: 029 2082 3001

E-bost: Webmaster@cymru.gsi.gov.uk Dywedwch wrthym pam a sut yr ydych am ddefnyddio’n logos. Nodwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.

Gor- gysylltu

 ni yn wales.gov.uk Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar y safle hwn. Ni ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar ein safle. Er hynny, byddai’n well gennym pe na bai’n tudalennau’n cael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Dylai tudalennau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu llwytho i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Os ydych am lwytho tudalennau o fewn fframiau cysylltwch â

Webmaster@cymru.gsi.gov.uk

Perchnogion porthol Os ydych am gynnwys tudalennau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we o fewn safle porthol cysylltwch â Webmaster@cymru.gsi.gov.uk. Nodwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost a disgrifiad o’ch safle porthol.

O’r safle hwn ar y we. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd y safleoedd cysylltiedig. Nid yw cynnwys safleoedd ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn roi sicrwydd y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.

Diogelwch rhag firysau Byddwn yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi pob deunydd ym mhob cyfnod o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad doeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a lwythir i lawr o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth neu niwed i’ch data neu’ch system gyfrifiadur a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd oddi ar safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we.

Ymwadiad

Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau safle Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) yn cael eu darparu ‘fel y maent’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddiamwys neu’n oblygedig, yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas penodol, heb dor cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y safle hwn yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y safle hwn neu’r gweinyddwr sy’n sicrhau bod y safle ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we.

Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi dan Amodau a Thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Datganiad preifatrwydd Os ydych yn ddefnyddiwr gyda mynediad cyhoeddus cyffredinol ac anhysbys nid yw safle Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn storio neu gadw gwybodaeth bersonol, ond mae’n cofnodi cyfeiriad IP y defnyddiwr a gydnabyddir yn awtomatig gan weinyddwr y we. Bydd y system yn cofnodi’ch cyfeiriad e-bost a gwybodaeth arall a gyflwynwch i ni o’ch gwirfodd. Bydd hyn yn cael ei drin yn berchnogol ac yn gyfrinachol. Efallai y bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer arolwg mewnol ac i’ch hysbysu am ddiweddariadau i’r safle. Safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we’n unig a gânt eu cynnwys yn y datganiad preifatrwydd.